Mae eich hapusrwydd a’ch lles yn bwysig dros ben i ni, a’n nod yw eich helpu i gael gyrfa academaidd lwyddiannus a chyflawn. Oherwydd hynny, mae’r Coleg yn darparu llawer o wasanaethau cefnogol arbenigol.
Mae ein staff Cefnogaeth Personol ar gael i roi cyngor, arweiniad, cefnogaeth a chynghori cyfrinachol i fyfyrwyr sydd ag anawsterau personol, o bryderon iechyd i ddod o hyd i lety.