Gall bywyd yng Ngholeg Llandrillo Cymru fod yn gyffrous, er hynny efallai y bydd yna gyfnodau anodd a phroblemau y byddwch angen cefnogaeth cynghorydd ar eu cyfer. Efallai y bydd yna adegau pan yr hoffech gefnogaeth person arall i siarad â nhw.
Mae cynghori’n cynnig y cyfle i feddwl a siarad mewn cyfrinachedd am broblemau sy’n eich poeni ac yn effeithio ar eich bywyd. Caiff hwn ei gynnig drwy sesiynau gyda chynghorydd cymwys.
Gall nifer o brofiadau bywyd gael effaith ar eich emosiynau a’ch gallu i ymdopi. Gall cynghorydd eich cefnogi drwy adael i chi siarad am eich bywyd a dod i ddeall eich profiadau. Gall cynghori eich galluogi i gael mynediad i rwydweithiau cefnogi ac asiantaethau helpu eraill.
Mae nifer o bobl yn poeni nad yw eu anawsterau yn ddigon pwysig i weld cynghorydd. Weithiau mae pobl angen siarad am eu problemau a cheisio dod o hyd i ffyrdd i’w rheoli. Os oes unrhyw fater yn eich poeni neu’n eich achosi pryder i chi, yna mae’n bwysig.
Mae apwyntiad Cynghori’n para am tua 50 munud. Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal mewn ystafell dawel wedi ei glustnodi, sydd yn rhydd rhag aflonyddwch. Mae yna system apwyntiad i sicrhau y cewch eich gweld cyn gynted ag y bo modd. Bydd sesiwn dechreuol yn eich galluogi i siarad am eich problemau penodol ac i drafod os fyddai sesiynau eraill yn y dyfodol yn gynorthwyol. Bydd hefyd yn eich galluogi i ofyn cwestiynau am natur y cynghori ac unrhyw bryderon sydd gennych chi.
Mae’r berthynas gynghori’n un gydweithredol, gallwch ddewis gael un sesiwn, neu sesiwn bob hyn a hyn, neu cyfres o sesiynau rheolaidd unai’n wythnosol neu bob pythefnos. Caiff yr opsiynau yma eu trafod.
Caiff y gwasanaeth cynghori ei redeg yn unol â BACP Ethical Framework for Good Practice in Counselling and Psychotherapy. Nid yw cynghorwyr yn trafod person sy’n derbyn cynghori gyda neb arall, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.
Gallwch alw mewn a siarad gyda’r Cydlynydd Cefnogaeth Myfyriwr a fydd yn trefnu apwyntiad i chi neu galwch mewn i Ganolfan Cyngor ac Arweiniad eich Coleg, e-bostiwch studentwelfare@llandrillo.ac.uk neu ffoniwch: 01492 546666 est. 366.
Noder: Ceisiwn weld myfyrwyr o fewn wythnos ble y bo’n bosibl, ond nid yw hyn yn bosibl bob tro.
The College’s Counselling Service offers short term intervention and support. It may not always be appropriate for you to be seen by our Counselling Team. If this is the case, the Student Welfare Co-ordinator will advise you on alternative options.
Mae Cydlynydd Lles Myfyriwr hefyd ar gael i fyfyrwyr siarad â hi neu gall myfyrwyr ofyn i’w tiwtor wneud apwyntiadau ar eu rhan neu alw i mewn.
Mewn argyfwng dylai myfyrwyr gael cefnogaeth drwy eu Meddyg Teulu neu eu Adran Ddamwain ac Argyfwng agosaf.
Mae yna ystafell ar gael ym mhob safle coleg, ble gallwch siarad gyda’ch cynghorydd mewn awyrgylch dawel heb aflonyddwch.
Mae ein cynghorwyr yn gymwys ac wedi eu goruchwylio a’u cofrestru’n broffesiynol.