Mae gan y Coleg Gydlynydd Lles Myfyrwyr i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau siarad am unrhyw broblem neu byrder sydd ganddynt megis:
Mae hi wedi ei lleoli yng Nghanolfan Cyngor ac Arweiniad a Lolfa’r Myfyrwyr ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos a gellir cysylltu â hi ar 01492 546 666 est. 366 neu drwy e-bostio studentwelfare@llandrillo.ac.uk.
Mae cymorth ar gael i fyfyrwyr sydd efallai’n dioddef o broblemau personol, emosiynol ac/neu anawsterau lles. Mae staff cymwys ar gael i ddarparu cymorth cyfrinachol i’ch helpu chi trwy gyfnodau anodd neu argyfwng personol.
Os ydych angen siarad â rhywun yna ewch draw i’r Ganolfan Cyngor ac Arweiniad ar gampws eich Coleg a gofyn i gael siarad gyda’r Cydlynydd Lles Myfyrwyr neu Gynghorydd Myfyrwyr. Os fyddai’n well gennych chi yrru e-bost yna gyrrwch eich manylion cyswllt at studentwelfare@llandrillo.ac.uk..