Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Cefnogaeth Tiwtor Personol

Fel myfyriwr llawn amser, bydd gennych Diwtor Personol i’ch cynorthwyo a’ch cefnogi drwy gydol eich amser yn y Coleg. Bydd eich Tiwtor Personol yn cwrdd â chi’n rheolaidd ac yn:

  • helpu i gynllunio eich rhaglen astudio
  • helpu i drefnu cefnogaeth dysgu ychwanegol oes angen
  • monitro eich presenoldeb
  • trefnu cyfweliadau gyrfaol i chi
  • eich helpu i gynllunio at y dyfodol ac ysgrifennu eich tystlythyr
  • eich helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith
  • adolygu eich cynnydd ym mhob maes pwnc
  • trafod gyda’ch teulu, yn gyrru adroddiadau rheolaidd atynt ac yn eu gwahodd I nosweithiau adolygu myfyriwr.

Rhan o gyfrifoldeb eich Tiwtor Personol yw monitro eich presenoldeb. Rhaid i chi fynychu pob un o’ch dosbarthiadau. Os yw eich presenoldeb yn gostwng yn llai na’r safon dderbyniol yna mae siawns i chi gael eich tynnu oddi ar y cwrs. Eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu eich Tiwtor o unrhyw absenoldebau o’r Coleg. Bydd eich Tiwtor Personol yn egluro manylion polisi presenoldeb y Coleg yn llawn i chi.