Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Cyrraedd a gadael y Coleg

Gyda champysau ledled Gogledd Cymru mae Coleg Llandrillo Cymru yn darparu sawl ffordd o ddanfon a chodi myfyrwyr o’u prif safle astudio. Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:

  • o dan 19 oed ar 31 Awst 2011
  • yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy, Dinbych, Y Fflint a Gwynedd
  • yn byw dros dair milltir o’r campws rydych yn astudio

Yna rydych yn gymwys am drafnidiaeth ddyddiol o’r man bws/trên sydd agosaf i’ch cartref a’r campws y byddwch yn astudio.

Trafnidiaeth i gampysau Coleg Meirion Dwyfor yn unig fydd trigolion Gwynedd yn gymwys ac nid i unrhyw gampws Coleg Llandrillo Cymru.

O Fedi 2011 mae Cyngor Sir Gwynedd yn cyflwyno cyfraniad o £60 at y ffi dymhorol o £100 i bob myfyriwr ôl 16. Cyfeiriwch at y wefan ar www.gwynedd.gov/studenttravelpass am ragor o wybodaeth.

Mae’r Awdurdod Addysg Lleol a’r Coleg yn cyflenwi fflyd o fysiau i ddanfon a chodi myfyrwyr cymwys i/o Gampysau Glynllifon a Llandrillo-yn-Rhos. Bydd myfyrwyr cymwys sy’n astudio yng nghampysau Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Meirion Dwyfor yn derbyn tocyn bws neu drên cyhoeddus.

Ar ôl cychwyn yn y Coleg bydd pob myfyriwr sy’n gymwys i ddefnyddio gwasanaeth cludiant y Coleg yn derbyn tocyn bws dilys yn ystod y broses gofrestru. Mae myfyrwyr angen cyflwyno tocyn bws dilys i deithio ar gludiant y Coleg.

Mae rhestr o fannau codi cludiant y Coleg ar wefan y Coleg ac ar dudalennau Moodle. Ar y rhestr ceir mannau danfon a chodi pob gwasanaeth cludo i bob Coleg. Cyfeirir hefyd at wybodaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dylai myfyrwyr llawn amser gydag anawsterau dysgu ac/neu anableddau dysgu, sy’n iau na 19 oed ac yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy, Dinbych neu Gwynedd gysylltu â’r Cydlynydd Cludiant i drafod sut gall y Coleg helpu.

Cysylltwch â’r Cydlynydd Cludiant am wybodaeth a chyngor ar gyrraedd a gadael y Coleg ar 01492 546 666 est. 410 neu drwy e-bost ar transport@llandrillo.ac.uk.