Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Cefnogaeth Ddysgu yn Coleg Llandrillo

Beth yw Cefnogaeth Ddysgu?

Gwasanaeth ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy'n teimlo bod arno angen mwy o gymorth gydag unrhyw ran o'i waith coleg. Gall cefnogaeth fod yn un sesiwn, dros gyfnod byr neu barhau drwy gydol eich rhaglen yn y Coleg.

Ble Mae Cefnogaeth Ddysgu?

  • Campws Llandrillo-yn-Rhos - yn y Ganolfan Ddysgu, Bloc L.
  • Coleg Llandrillo y Rhyl - i fyny'r grisiau yn y Llyfrgell.
  • Coleg Llandrillo Dinbych - yn Ystafell C, y Ganolfan Ddysgu.
  • Coleg Llandrillo Abergele - yn y Llyfrgell.

Beth Mae Cefnogaeth Ddysgu yn ei Gynnig?

  • Cyngor ac arweiniad ynghylch mynediad ac offer arbenigol
  • Benthyg offer arbenigol
  • Asesiad ar gyfer anawsterau penodol, er enghraifft, dyslecsia
  • Diweddaru adroddiadau/ asesiadau blaenorol
  • Cymorth i ofyn am drefniadau arholiad arbennig
  • Cymorth gyda phroblemau symud
  • Cymorth gydag anghenion gofal personol
  • Cefnogaeth ychwanegol gyda darllen, sillafu, ysgrifennu a mathemateg a dysgu dwyieithog

Y Ganolfan Ddysgu , Safle Llandrillo-yn-Rhos

Bwriad y Ganolfan Ddysgu yw gwella a chyfoethogi eich profiad dysgu yn y Coleg. Mae'r awyrgylch yma'n gyfeillgar a hamddenol a gall y staff ddarparu cefnogaeth un i un gyda:

  • Mathemateg
  • Saesneg
  • Sgiliau Allweddol
  • Sgiliau Astudio
  • Sgiliau Cyflwyno
  • Mae'r Adnoddau Dysgu sydd ar gael yn cynnwys:

  • 30 o gyfrifiaduron wedi eu cysylltu i rwydwaith y Coleg
  • Pecynnau CD-ROM
  • Mynediad i'r Rhyngrwyd ac e-bost
  • Sganiwr a pheiriant argraffu lliw
  • Taflenni'n ymdrin ag amrywiaeth eang o destunau

Os ydych chi’n meddwl yr hoffech chi gymorth ychwanego gyda’ch astudiaethau, unai gadewch i ni wybod drwy dicio’r blychau cefnogaeth ychwanegol ar y ffurflen ymrestru, neu os ydych chi wedi cychwyn eich cwrs yn baro, siaradwch gyda’ch Tiwtor Personol os gwelwch yn dda.