Mae’n bwysig ystyried sut i gynnal eich hun yn ariannol pan yn fyfyriwr. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol efallai y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol i gefnogi eich astudiaethau. Gall staff Gwasanaethau i Fyfyrwyr ddarparu arweiniad a gwybodaeth ar y cymorth ariannol sydd ar gael.
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn grant a delir yn wythnosol mewn symiau o £10, £20 neu £30, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Er mwyn bod yn gymwys:
Rhaid i chi fynychu 100% o’ch dosbarthiadau ar eich amserlen er mwyn derbyn y LCA. Rhaid i fyfyrwyr arwyddo Cytundeb Dysgu LCA gyda’r Coleg er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y tâl. Telir yr arian yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc. Tydi derbyn LCA ddim yn effeithio ar fudd-daliadau eraill a ddaw i’r cartref.Further information.
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Cynllun Addysg Bellach - GDC (AB) - ar gael i fyfyrwyr sy’n 19 oed neu hyˆn ar 1 Medi 2010. Os ydych chi’n astudio rhaglen llawn amser sy’n 500 awr neu fwy, gallech dderbyn i fyny at £1,500 i’w ddefnyddio tuag at gostau astudio o ddydd i ddydd. Gall dysgwyr sy’n astudio rhwng 275 a 499 awr dderbyn i fyny at £750 y flwyddyn. Mae’r cyfanswm a ddyfarnir yn dibynnu ar incwm blynyddol y cartref. Gwneir tri thaliad i fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn, yn dibynnu os ydynt, ar gyfartaledd, wedi mynychu o leiaf 85% o’r dosbarthiadau ar eu hamserlen. Mwy
Gellir dyfarnu'r arian yma ochr yn ochr â chymorth ariannol a amlinellwyd yn dibynnu ar incwm y teulu/cartref. Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd ddim yn gymwys am y ffurfiau uchod o gymorth.
Mae Cynllun Bwrsariaeth y Fyddin hefyd ar gael ar ystod o gyrsiau yn y Coleg. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.armyjobs.mod.uk.
Gall myfyrwyr llawn amser fod yn gymwys ar gyfer cymorth gyda'r pecynnau canlynol:
Gall israddedigion rhan-amser fod yn gymwys ar gyfer Ffi a Grant Cwrs.Am ragor o wybodaeth, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.