Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru

Gofal Plant

Cynigir amgylchedd feithrin i blant a babanod rhwng 4 mis a 4 oed yn y Ganolfan Gofal Plant ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos lle mae tîm pwrpasol o staff meithrin hynod brofiadol a chymwys.

Mae llefydd yn y Ganolfan Gofal Plant (Adeilad Cinmel) yn brin a byddem yn argymell unrhyw riant sy’n ystyried defnyddio’r cyfleuster rhagorol yma i gysylltu â Goruchwyliwr y Ganolfan Gofal Plant er mwyn trafod argaeledd ar 01492 542 318.

Os ydych yn astudio cwrs llawn amser yn y Coleg a bod gennych incwm teulu isel, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant mewn meithrinfa neu tuag at ofalwr plant cofrestredig, yng Nghanolfan Gofal Plant y Coleg a Chlybiau Cyn ac Ar ôl Ysgol.

Cysylltwch â Chanolfan Cyngor ac Arweiniad eich campws er mwyn derbyn ffurflen gais Grant Cefnogi’r Dysgwr (GCD) neu ar gyfer rhagor o wybodaeth.