Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru

Cyngor ac Arweiniad

Beth bynnag ydych chi'n ei astudio, mae ein timau cyngor ac arweiniad yma i'ch helpu i gael y gorau o'ch amser yn y Coleg:

  • Gwybodaeth amhleidiol am opsiynau astudio i'ch helpu i wneud y dewis cywir
  • Cyngor ar gefnogaeth ariannol gan gynnwys ysgoloriaethau a grantiau, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu'r Cynulliad, Cronfeydd Cefnogaeth
  • Ariannol Myfyrwyr a chymorth ariannol ar gyfer gofal plant
  • Cyngor gan eich Cyd-drefnydd Cefnogaeth Myfyrwyr ar ystod o faterion personol i ddod o hyd i lety i wasanaethau cynghori
  • Cyngor gyrfaol i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol
  • Cefnogaeth Tiwtor Personol i'ch arwain a chynorthwyo drwy'ch cwrs

Cysylltwch â Thimau Cyngor ac Arweiniad

Coleg Llandrillo Cymru, Abergele
Ffoniwch Joan Powell, Cynghorwraig Myfyrwyr ar, 01745 828 100 est. 686 neu galwch i mewn i'r Ganolfan Cyngor ac Arweiniad. ebost: abergeleadmissions@llandrillo.ac.uk

Coleg Llandrillo Cymru, Dinbych
Ffoniwch Karen Malloy ar 01745 812 812 est. 673, neu galwch i mewn i'r Ganolfan Cyngor ac Arweiniad, Ystafell B05. ebost: denbighadmissions@llandrillo.ac.uk

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau
Ffoniwch 01341 422 827 neu e-bostiwch: dolgellau@llandrillo.ac.uk

Coleg Llandrillo Cymru, Glasdir Llanrwst
Mae Cyngor ac Arweiniad ar gael drwy apwyntiad yn unig. I gael mwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad ffoniwch 01492 546 666 est.723 neu 01745 812 812 est.666, neu e-bostiwch llanrwstadmissions@llandrillo.ac.uk

Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon
Ffoniwch 01286 830 261 neu e-bostiwch: glynllifon@llandrillo.ac.uk

Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli
Ffoniwch 01758 701 385 neu e-bostiwch: pwllheli@llandrillo.ac.uk

Coleg Llandrillo Cymru, Campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r Ganolfan Cyngor ac Arweiniad wedi ei leoli drws nesaf i'r Dderbynfa yn y prif gyntedd. Ffoniwch 01492 542 338/9. ebost: admissions@llandrillo.ac.uk

Coleg Llandrillo Cymru, y Rhyl
Ffoniwch Jenny Bishop ar 01745 354 797 est. 822, neu galwch i mewn i'r Ganolfan Cyngor ac Arweiniad, Ystafell A6a. ebost:: rhyladmissions@llandrillo.ac.uk

Amseroedd Agor

Mae Canolfannau Cyngor ac Arweiniad ar agor ar bob campws ar agor rhwng 9yb - 4.30yo Dydd Llun i ddydd Gwener.