Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Business

Golau Ar Graddau

Gyda mwy nag erioed o gyrsiau Gradd, cyrsiau Graddau Sylfaen a Chymwysterau Cenedlaethol Uwch ar gael, yn llawn amser ac yn rhan-amser, ni fu erioed amser gwell i astudio ar gyfer cymhwyster lefel prifysgol yng Ngholeg Llandrillo Cymru.

Degrees

Mae Coleg Llandrillo Cymru yn cynnig amrediad eang o gymwysterau prifysgol. Dilysir a dyfernir llawer ohonynt gan Sefydliadau Addysg Uwch eraill fel Prifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndwr.

MWY NA 30 PWNC

Mae cyrsiau lefel prifysgol ar gael mewn mwy na 30 o bynciau, yn cynnwys: Busnes, Rheoli a Manwerthu, Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth, Adeiladwaith, Lletygarwch, Yr Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus, Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored a Hyfforddiant i Athrawon, i enwi ond rhai.

Os ydych am gael gradd i wella’ch gobaith o gael gwaith, ond yn poeni am y gost, daliwch ati i ddarllen!

COSTAU IS a £17,500 YN LLAI O DDYLED

Os buoch yn byw yng Nghymru’n ddi-dor am y tair blynedd ddiwethaf, dim ond £3,465 y bydd yn rhaid i chi ei dalu os byddwch yn dechrau astudio am radd prifysgol fis Medi 2012. Bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r gwahaniaeth rhwng y £3,465 a’r tâl a godir gan brifysgol neu goleg am gwrs gradd llawn amser. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr Lloegr dalu hyd at £9,000 y flwyddyn!

Wrth fyw gartref, gallwch hefyd osgoi’r dyledion mawr sy’n wynebu myfyrwyr sy’n mynd oddi cartref i astudio. Yn ôl arolwg cenedlaethol diweddar, mae myfyrwyr y Coleg ar hyn o bryd (ac anghofio’r ffïoedd dysgu) yn graddio gyda £17,500 yn llai o ddyled na’u cyd-fyfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgolion, am fod y costau byw’n llai.

ARIAN I ASTUDIO

Ar ben hynny, os ydych yn byw yng Nghymru’n arferol, ac os ydych yn dewis dilyn cwrs gradd llawn amser yng Ngholeg Llandrillo Cymru, byddwch yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth o £500 yn eich blwyddyn gyntaf. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael cymorth gyda’ch costau byw a threuliau eraill.

Os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, mae’n bosibl y gallech gael grant tuag at eich ffioedd, neu beidio â gorfod talu ffioedd o gwbl. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Degrees

GWEITHIO AC ASTUDIO

Gan nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr gradd – hyd yn oed y rhai llawn amser –ond yn y Coleg ddau ddiwrnod/ddwy noswaith ar y mwyaf yr wythnos, gallwch gyfuno’ch astudiaethau gyda gwaith cyflogedig. Bydd hyn yn gymorth i chi dalu am eich cwrs.

MWY O LEFYDD!

Mae’r Coleg yn un o ddim ond tri yng Nghymru sydd â mwy o lefydd ar gael ar gyrsiau gradd eleni nag a oedd ar gael y llynedd. Felly, os ydych am astudio gyda ni, mae gennych fwy o siawns o gael lle. Ar hyn o bryd, mae tua 1,000 o fyfyrwyr yn dilyn cwrs gradd, neu gwrs arall sydd ar lefel prifysgol, yma yn y Coleg, ac mae cyrsiau 2012 yn llenwi’n gyflym!

Mae llefydd gwag dal ar gael ar gyrsiau Gradd Sylfaen dwyieithog ar Safle Dolgellau.

GRADD SYLFAEN NEU RADD ANRHYDEDD?

Mae’r Coleg yn cynnig Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd mewn amrywiaeth o bynciau.

Mae Gradd Sylfaen yn werth 240 credyd, a dilynir y cwrs yn llawn amser am 2 flynedd neu’n rhan-amser am 3 blynedd. Yn wahanol i rai rhaglenni gradd, nid ydynt yn ymwneud â theori’n unig; maent hefyd yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth a sgiliau yn y gweithle ac â rhoi theori ar waith.

Datblygwyd ein Graddau Sylfaen mewn ymgynghoriad â diwydiannau. Byddant yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, ac felly byddwch mewn gwell sefyllfa i gael swydd dda ar ôl graddio.

Mae Gradd Baglor gydag Anrhydedd yn werth 360 credyd. Mewn rhai pynciau, mae cwrs Gradd Anrhydedd yn gwrs llawn amser sy’n para tair blynedd. Mewn pynciau eraill, astudir Gradd Sylfaen yn gyntaf, cyn ychwanegu at y radd honno drwy astudio am flwyddyn neu ddwy ymhellach, weithiau mewn prifysgolion eraill, er mwyn cael Gradd Baglor gydag Anrhydedd.

Degrees

WEDI GADAEL BYD ADDYSG ERS TIPYN?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cwrs gradd, ond wedi gadael byd addysg ers tro, mae cyrsiau ar gael i’ch paratoi.

Os oes gennych y cymwysterau mynediad angenrheidiol, ond angen diweddaru’ch sgiliau astudio, byddai’n werth i chi ddilyn cwrs “Edrych Ymlaen at Addysg Uwch” a gynhelir yn ystod yr haf ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Neu, mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch ar gael. Mae’r rhain yn addas ar gyfer oedolion sydd heb gymwysterau ffurfiol ac sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd. Gellir astudio cyrsiau Mynediad dros gyfnod o flwyddyn neu ddwy flynedd. Byddant yn eich paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol, gan feithrin ynddoch y technegau a’r dulliau sy’n angenrheidiol i astudio’n llwyddiannus ar gwrs Addysg Uwch.

SUT I WNEUD CAIS

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gwrs Addysg Uwch, ac i gael gwybod sut i wneud cais, anfonwch neges e-bost at degrees@llandrillo.ac.uk neu ffoniwch 01492 546 666