A oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Adeiladwaith?
Ydych chi ar fin gadael yr ysgol? Ydych chi am gychwyn gyrfa newydd yn y diwydiant Adeiladu? Ydych chi wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers tipyn ac am ddysgu sgiliau newydd? Os ydych yn chwilio am gwrs llawn amser neu ran-amser, prentisiaeth neu gymhwyster lefel prifysgol, gallai’r amrediad eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael ar ein campysau yn Nolgellau, Llandrillo-yn-Rhos a’r Rhyl olygu bod gyrfa yn y diwydiant Adeiladu yn nes nag a feddyliwch.
Cynlluniwyd y Graddau Sylfaen mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Sifil i ddarparu addysg a hyfforddiant i rai a gyflogir yn y diwydiant, a byddant yn sail gadarn i yrfa broffesiynol neu reolaethol ym maes Adeiladwaith. Ar ôl cwblhau Gradd Sylfaen, bydd cyfle ar gael i ‘ychwanegu’ at y cymhwyster er mwyn ennill gradd BSc (Anrhydedd) lawn mewn Rheolaeth Fasnachol.
Cyfleoedd o ran Gyrfa

Mae’r amrediad eang o swyddi posibl yn cynnwys pensaer, briciwr, saer ac asiedydd, peiriannydd sifil a pheiriannydd adeiladu, rheolwr adeiladu, trydanwr, ymgynghorydd amgylcheddol, rheolwr adnoddau a rheolwr ystâd, peiriannydd gosod a chynnal a chadw systemau nwy, peintiwr ac addurnwr, plastrwr, plymwr, tirfesurydd a chynllunydd gwlad a thref.
Mae gan y Coleg gysylltiadau ardderchog gyda SgiliauAdeiladu, Cyngor Sgiliau Sector y diwydiant adeiladu, yn ogystal â chyflogwyr lleol, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Enillodd y radd uchaf a ddyfernir gan Arolygwyr y Llywodraeth am Ddysgu ac Addysgu, a Dysgu Seiliedig ar Waith, ym maes Adeiladwaith.
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
Mae Coleg Llandrillo Cymru wedi sefydlu cysylltiadau cadarn gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Ef yw’r coleg cyntaf yng Nghymru, ac un o nifer fechan yn y DU, i gael statws ‘Coleg Cyswllt’ gydag un o gyrff dyfarnu mwyaf blaenllaw y sector.
Ein Myfyrwyr

Ar ôl dilyn cyrsiau yma, bydd llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus ym maes Adeiladwaith. Llwyddodd Craig Duck, myfyriwr sy’n dilyn cwrs Lefel 2 y City and Guilds ar hyn o bryd, i gael gwaith o ganlyniad uniongyrchol i’w astudiaethau yng Ngholeg Llandrillo Cymru. Pan ddaeth Craig i’r Coleg gyntaf, dilynodd y Cwrs Sylfaen mewn Crefftau Adeiladu, ac ers hynny treuliodd gyfnod llwyddiannus yn brentis gyda Hopol, cwmni gwresogi ym Mae Colwyn.
Yn aml, bydd myfyrwyr Coleg Llandrillo Cymru yn ennill gwobrau. Yn ddiweddar, enillodd Calum Tait, myfyriwr Adeiladwaith o’r Rhyl, wobr Prentis y Flwyddyn (Cymru), dywedodd “Fe wnes i ddod i Goleg Llandrillo i wella fy sgiliau yn y maes yr oeddwn wedi dewis gweithio ynddo ac i ddeall yn iawn beth mae bob yn blymwr yn ei olygu. Mae pawb yn gyfeillgar yn y Coleg ac mae yno ddigon o gyfleusterau - bu’r cyfan yn gymorth mawr i mi wireddu fy nghynlluniau i ddod yn beiriannydd nwy a phlymio cymwysedig.”
Mae gennym hefyd ddarlithwyr cymwys a phrofiadol a fydd yn darparu profiadau dysgu gorau ar eich cyfer. Yn ôl Nathan Thomas, sydd ar hyn o bryd yn dilyn y cwrs NVQ3 mewn Gwaith Plymwr, “Os dangoswch eich bod yn awyddus ac yn barod i weithio, bydd y tiwtoriaid yn eich helpu ym mhob ffordd bosibl.”