Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Business

Golau Ar Busnes

A oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Busnes?

Ydych chi ar fin gadael yr ysgol? Ydych chi am ailhyfforddi neu am wella’ch gobaith o gael gwaith? Rydym yn rhedeg amrywiaeth eang o gyrsiau busnes llawn amser a rhan-amser yng Ngholeg Llandrillo Cymru. Gall ein myfyrwyr busnes arbenigo mewn cyfrifeg, gweinyddu, mentergarwch, y gyfraith, gweinyddu meddygol, gwaith personél a manwerthu, yn ogystal â chael gwybodaeth gadarn am egwyddorion ac arferion busnes.

Mae dros 90% o fusnesau Gogledd Cymru’n cyflogi llai na 10 o bobl ac mae 98% ohonynt yn fentrau bach neu ganolig sy’n cyflogi llai na 250. Golyga hyn y bydd llawer ohonom yn sefydlu neu’n gweithio mewn busnes bach rywdro yn ystod ein hoes. Gwell bod yn barod, felly!

Sgiliau Manwerthu

Retail

Yn ddiweddar, sefydlodd Coleg Llandrillo Cymru Siop Sgiliau Manwerthu ar gampws y Rhyl. Yno, darperir hyfforddiant hyblyg a fforddiadwy a deilwriwyd yn benodol ar gyfer y diwydiant Manwerthu.

Darpara’r Academi Sgiliau Manwerthu Cenedlaethol hyfforddiant o ansawdd sy’n gyson uchel i fusnesau manwerthu, eu gweithwyr a darpar-weithwyr, drwy gyfrwng rhwydwaith o siopau sgiliau manwerthu sydd wedi ennill marc ansawdd.

Yn ychwanegol at hyn, mae Mary Portas, ymgynghorydd manwerthu blaenllaw a seren y rhaglen Mary, Queen of Shops ar BBC2, wedi datblygu rhaglen hyfforddi unigryw a gynhelir ar hyn o bryd ar gampws y Rhyl. Mae Arweiniad Mary Portas i Fanwerthu Llwyddiannus yn rhaglen ysbrydoledig a gynlluniwyd i arwain, symbylu a chymell perchnogion a rheolwyr siopau. Mae’n cyfuno gwybodaeth Mary am adwerthu, a’i hegni, gydag offer a sgiliau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith mewn unrhyw fusnes manwerthu.

Retail Academy

Graddau

Drwy roi i chi ddealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae busnesau’n gweithio, bydd gradd mewn busnes yn helpu i chi gyflawni’ch potensial ym myd busnes. Mae Coleg Llandrillo Cymru’n cynnig Graddau Sylfaen (FdA) mewn Cyfrifeg a Chyllid, Rheolaeth a Busnes a Rheoli Manwerthu, gyda’r dewis o ychwanegu at y cymhwyster er mwyn ennill Gradd BA Anrhydedd lawn mewn Rheoli Manwerthu. Rydym hefyd yn cynnig Cwrs BA Anrhydedd tair blynedd mewn Rheolaeth a Busnes.

Pa un a fyddwch yn dewis cwrs Gradd Sylfaen neu gwrs Gradd Anrhydedd, cewch y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau arbenigol a fydd yn galluogi i chi wneud cynnydd yn broffesiynol ac yn academaidd.

Yn aml, bydd cyn-fyfyrwyr yn dweud iddynt gael swydd neu ddyrchafiad oherwydd y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder a gawsant wrth ddilyn un o’n cyrsiau gradd mewn busnes.

Yr hyn a ddywed ein myfyrwyr

Dros y blynyddoedd, enillodd ein myfyrwyr nifer o wobrau cenedlaethol, yn cynnwys Myfyriwr Paragyfreithiol Gorau’r Flwyddyn a Myfyriwr Ysgrifenyddol Cyfreithiol Gorau’r Flwyddyn Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol, a Medal y City & Guilds am Ragoriaeth.

Craig Hogg

Craig Hogg

BA (Anrhydedd) Rheoli Busnes

“Ar ôl gadael ysgol, mi fues i’n chwarae pêl-droed proffesiynol i Everton, ond doeddwn i ddim cweit digon da. Rydw i r*an yn gyfarwyddwr cwmni o Fangor sy’n cyflogi dros 150 o bobl. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth ges i wrth astudio’r cwrs BA wedi bod yn gymorth mawr i mi reoli menter sy’n tyfu’n gyflym.”

Stacey Carruthers

Astudiaethau Cyfreithiol Lefel 2 ILEX , Mynediad i Addysg Uwch: Busnes, Medal y City & Guilds am Ragoriaeth

“Mae mynd i goleg yn gwneud i chi sylweddoli nad chi ydi’r unig un sy’n teimlo ei bod hi’n rhy hwyr. Efo cefnogaeth eich tiwtoriaid a’ch cydfyfyrwyr, gallwch gyflawni unrhyw beth os ydych chi’n ddigon penderfynol. Wrth gwrs ei fod o’n waith caled, ond mae’n werth yr ymdrech. Rydw i wedi cael lle mewn prifysgol i astudio’r Gyfraith. Feddyliais i erioed y byddai’r peth yn bosib.”