Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru

Cyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd

P’un a ydych yn athletwr deheuig neu am wneud dim mwy na chadw’n heini, mae gan y Sefydliad Chwaraeon ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos ystod eang o gyfleusterau y gall myfyrwyr eu defnyddio a’u llogi.

Maent yn cynnwys:

  • Prif Neuadd gyda phum cwrt
  • Cwrt Sboncen a gwydr yn y cefn
  • Stiwdio Ymarfer amlbwrpas a drychau ynddi
  • Cae chwarae artiffisial 3G maint llawn wedi’i lifoleuo ac yn newydd sbon.

Ffoniwch dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon ar 01492 542 347 i gael rhagor o wybodaeth.

Ffitrwydd Heb ei Ail

Yn y Sefydliad Chwaraeon, mae ystafell Ffitrwydd Heb Ei Ail ac ynddi, mae campfa fasnachol, fodern gyda phob math o gyfarpar a system awyru. Gallwch ymaelodi am un taliad o £35 er mwyn cael mynediad am ddim i’r gampfa rhwng 9am a 5pm Llun - Gwener.

Ffoniwch dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon ar 01492 542 347 i gael rhagor o wybodaeth.