Efallai eich bod yn gwybod yn barod mai Coleg Llandrillo Cymru yw un o’r Colegau gorau yn y wlad –yn swyddogol – ond oeddech chi’n gwybod y gallwch gael mynediad i nifer o gyfleusterau trawiadol y Coleg?
Mae salonau gwallt masnachol yn Llandrillo-yn-Rhos a’r Rhyl yn cynnig torri, lliwio, pyrmio a steilio. Mae amrywiaeth o driniaethau harddwch ar gael yn ein salonau yn Llandrillo-yn-Rhos ac Abergele. Gallech hefyd dretio eich hun i driniaeth dwylo neu driniaeth traed yn ein stiwdios yn y Rhyl.
Mae gan Canolfan Ffitrwydd Dosbarth Cynaf gampws sy’n llawn offer, cyrtiau sboncen a neuadd chwaraeon sydd i gyd ar gael i’w hurio
Mae Clwb Ciniawyr hefyd ar gael ym Mwyty Orme View sydd ag amrywiaeth o ddigwyddiadau cinio a swper nos.
I ddefnyddwyr busnes, mae Canolfan Gynhadledd Orme View yn cynnig rhai o gyfleusterau cynadledda gorau yn yr ardal a gwerth rhagorol am arian, mae’n leoliad delfrydol i ar gyfer cyfarfodydd llai a digwyddiadau mwy.