Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru

Canolfan Cynhadledd 'Orme View'

Mae'r cyfleuster cynhadledd gwych yma yn cynnig lleoliad syfrdanol ar gyfer unrhyw achlysur, gyda'i gynllun cyfoes, tu mewn coeth a chyfleusterau hyblyg.

Gall ystafell gynhadledd Rhos a Conwy a bwyty Orme View weithio fel tri ystafell gwahanol, neu fe gellir agor y sgriniau atal sain mewn unrhyw gyfuniad. Mae hyn yn galluogi nifer o opsiynau ar gyfer ystod eang o gynadleddau a digwyddiadau. Mae ystafell newydd Madog yn darparu cyfleusterau ychwanegol.

Mae ffenestri o'r llawr i'r to, gan ddarparu gwesteion gyda golygfeydd rhyfeddol dros Barc Cenedlaethol Eryri, Gogarth Fach ac allan i'r môr. Mae dodrefn steilus ac addurn modern yn creu amgylchedd cyfoes ond eto'n soffistigedig. Mae'r ganolfan gynhadledd i gyd yn cael ei aerdymheru, gyda bleindiau ar gyfer diwrnodau braf, ac mae ganddo gyfleusterau amlgyfrwng gan gynnwys cyfrifiadur, uwchdaflunydd a sgrîn.

Am ragor o fanylion, os gwelwch yn dda cysylltwch â Joan Hammond ar 01492 542 341 neu e-bost j.hammond@llandrillo.ac.uk