Mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol modern sydd werth £3.6 miliwn yn ddatblygiad arloesol yng Ngholeg Llandrillo Cymru a fydd yn cyfeirio at anghenion Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) ac anghenion Addysg Uwch galwedigaethol rheiny sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng ngogledd Cymru.
Fel un o’r colegau blaengar yn y wlad a’r coleg mwyaf yng ngogledd Cymru mae Coleg Llandrillo Cymru yn cynnig amrywiaeth unigryw o safon hyfforddiant.
Mae’r Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’i leoli ar safle Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, a bydd yn darparu rhaglenni hyfforddiant a diweddaru proffesiynol ar draws gogledd Cymru i staff sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â’r rheiny a hoffai hyfforddi i gael gyrfa yn y Sector Iechyd a Gofal. Bydd trafod â diwydiant a chyflogwyr yn sicrhau fod yr holl raglenni’n berthnasol, yn addas i’w pwrpas ac yn cwrdd ag anghenion sefydliadau lleol.
Bydd hyfforddiant yn addas ar gyfer ystod eang o staff, gan gynnwys gofalwyr, cynorthwywyr gofal, cynorthwywyr gofal iechyd, gweithwyr clerigol, porthorion, gweithwyr domestig a staff gwirfoddol. Bydd gwell lefel sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn fanteisiol i sefydliadau yn ogystal â chleifion, cleientiaid a staff eraill. Bydd gadael i staff astudio ar gyfer cymhwyster achredig drwy ddarnau bychan o ddysgu yn arwain at well sgiliau gwaith gan staff, mwy o foddhad swydd, a llai o drosiant staff.
O fis Medi 2009, mae rhaglen DPP y Coleg yn cynnwys meysydd megis Maeth, Rheoli Haint, Cyfathrebu a Sgiliau Cwnsela, Terminoleg Meddygol, Gofal Iechyd Meddwl, Hyrwyddo Iechyd a Gofal Lliniarol. Cynigir rhaglenni addysg a hyfforddiant ar safleoedd eraill Coleg Llandrillo Cymru neu mewn lleoliadau iechyd a gofal er mwyn cwrdd ag anghenion lleol.
Cliciwch yma i lwytho’r rhaglen newydd ar gyfer 2012 i lawr *
Bydd y Sefydliad newydd yn gwbl barod erbyn mis Medi 2011 a bydd yn cynnwys ardal ward er mwyn dysgu a hyfforddi yn ogystal ag ystafell hyfforddi cwnsela pwrpasol, theatr ddarlithio, adnodau TG a dosbarthiadau modern.
Staff cymwys a thiwtoriaid â chefndiroedd clinigol fydd y tîm dysgu h.y. mewn ffisiotherapi a nyrsio, ynghyd â llawer o brofiad o ddysgu a hyfforddi yn y GIC ac awdurdodau lleol.
Os hoffech chi ddysgu mwy o wybodaeth am Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael, ffoniwch 01492 546 666 est.729, ebost: hscinstitute@llandrillo.ac.uk neu ewch i www.llandrillo.ac.uk.