Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Seremoni Raddio Coleg Llandrillo 2010

Cafodd 17eg Seremoni Graddio Flynyddol Coleg Llandrillo Cymru ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno o flaen neuadd lawn o fyfyrwyr, eu teuluoedd a ffrindiau.

Bu’r Seremoni Raddio yn dathlu cyraeddiadau rhagorol dros 250 o fyfyrwyr Gradd, Gradd Sylfaen, HND, HNC ac Ôl-radd. Cyflawnodd dros hanner y myfyrwyr gradd llawn 2:1 neu’n uwch.

Roedd hi’n ddathliad ar y cyd i fam a’i mab, Christina a Christopher Billcliff o Fodelwyddan, roedd y ddau’n graddio ar yr un diwrnod ar yr un cwrs! Derbyniodd Christina, sy’n Gynorthwy-ydd Personol i un o Brifathrawon Cynorthwyol Coleg Llandrillo Cymru ei Gradd Sylfaenol mewn Rheolaeth a Busnes gyda’i mab wrth ei hochr. Dywedodd Christina: “Roeddwn i braidd yn ofnus ac ansicr am sut fyddai hyn yn gweithio gan fod y ddau ohonom ar yr un cwrs. Cafodd y sefyllfa anarferol ei derbyn gan ein cyd fyfyrwyr a’n tiwtoriaid, a dweud y gwir fe greodd ychydig o hiwmor yn y darlithoedd. Roedd hi’n fantais, gan fod yna ychydig o gystadleuaeth rhyngom ni, gan olygu ein bod wedi codi ein graddau."

“Fe wnaeth y ddau ohonom fwynhau’r cwrs, er bod gweithio’n llawn amser yn golygu ei bod hi’n anodd dod o hyd i amser i gwblhau’r gwaith, ond roedd staff yr ysgol Fusnes yno i’n cefnogi a’n helpu. Mae’r cwrs wedi dysgu sgiliau gwerthfawr i ni a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer ein gyrfaoedd.”

Fe raddiodd Mine Karadal o Landrillo-yn-Rhos gyda gradd 2:1 mewn BA Anrhydedd Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth. Dechreuodd Mine ei hastudiaethau yn y Coleg ar gwrs Diploma Rhagarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth (Lefel 1) gan nad oedd ei Saesneg yn ddigon cryf i ddilyn cwrs lefel uwch. Ar ôl cwblhau cwrs Lefel 2 yn llwyddiannus, derbyniwyd Mine ar gwrs gradd yn 2007 gan ennill graddau uchel ym mhob aseiniad.

Yn ddiweddar daeth Mine a gafodd ei geni yn Nhwrci yn ddinesydd Prydeinig, ac mae hi wedi cyflawni ei huchelgais i fod yn aelod o Griw Caban Awyr gyda Turkish Airlines, ac mae hi’n cychwyn ar ei hyfforddiant yn syth ar ôl graddio.

Bydd myfyriwr o Awstria, Philipp Baumgartner o Landudno, yn aros yng Nghymru ar ôl graddio â BA Anrhydedd (Atodol) Rheolaeth Gwesty a Lletygarwch, gan fod ei bartner Prydeinig, sy’n byw yn Y Swistir wedi dewis astudio yng Nghymru’r ddwy flynedd nesaf. Cwblhaodd Philipp dwy flynedd gyntaf ei gwrs yn Awstria, ond doedd y coleg roedd o’n ei fynychu ddim yn cynnig y flwyddyn olaf. Felly, ar ôl derbyn argymhelliad gan ffrind o Awstria a astudiodd yng Ngholeg Llandrillo Cymru’n flaenorol, symudodd Philipp i Gymru.

Dywedodd Philipp: “Mae’n bendant wedi gwella safon fy Saesneg a fy sgiliau iaith yn gyffredinol. Dwi wedi cwrdd â llawer o bobl o wahanol ddiwylliannau ac mae safon yr addysg wedi bod yn ardderchog.”

I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo Cymru, cysylltwch â thîm Cyngor ac Arweiniad ar 01492 542 338/9.


Ceir cefnogaeth gadarn yn flynyddol gan ein cyflogwyr partner sy’n ymroi eu hamser a chyllid i gydnabod y cyraeddiadau yma. Dyw eleni ddim yn eithriad ac rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth yn fawr.