Mae Wythnos Prentisiaeth Cymru yn wythnos ymroddedig i ddathlu sgiliau a brwdfrydedd y mae Prentisiaid yn ei roi i gyflogwyr ar draws Cymru.
Mae gweithwyr effeithiol sydd wedi eu hyfforddi’n dda yn bwysicach nag erioed ar gyfer llwyddiant busnes. Gall cael tîm gyda’r sgiliau cywir eich helpu i gwrdd â sialensiau busnes megis cystadleuaeth, twf a chyfnewidiau. Felly, mae datblygu gweithwyr drwy gynllun Prentisiaeth yn hanfodol.
Mae rhaglenni hyfforddiant Prentisiaethau yn ffordd ardderchog i’ch busnes i ddatblygu gweithwyr gyda’r sgiliau a’r profiad rydych ei angen. Gan weithio i fusnesau mawr a bach, mae Prentisiaid yn astudio amrywiaeth eang o lwybrau hyfforddi, o Blymio i Ofalu, Blynyddoedd Cynnar i Adeiladwaith gan ennill cymwysterau a gydnabyddir ddiwydiant ar yr un pryd.
Fel darparwr pwysig o hyfforddiant Prentisiaeth yng Ngogledd Cymru, mae Coleg Llandrillo Cymru yn falch o gefnogi Wythnos Prentisiaeth Cymru.
Bydd Coleg Llandrillo Cymru yn cynnal amrywiaeth o arddangosiadau a digwyddiadau gwybodaeth drwy gydol yr wythnos.
Ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos bydd gwybodaeth ar gael yn y brif dderbynfa o 10-11yb a 2-3yp gydag arddangosfeydd rhwng 12-2yp.
Yn nerbynfa Coleg Llandrillo y Rhyl bydd gwybodaeth ar gael rhwng 12-2yp.
I gael mwy o wybodaeth am ddod yn Brentis, cliciwch
yma
I gael mwy o wybodaeth am dderbyn Prentis, cliciwch
yma