Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Cyfleoedd Blwyddyn 10

Mae Coleg Llandrillo Cymru yn rhan o Rwydweithiau 14-19 Conwy a Sir Ddinbych. Drwyddo, os ydych chi’n ddisgybl ysgol ym Mlwyddyn 10, gallwch ddewis un o nifer o Lwybrau Dysgu. Ochr yn ochr â’r pynciau sydd ar gael i chi yn eich ysgol, gallwch hefyd astudio pynciau a chymwysterau o ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo Cymru.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn cynnig dewis arall i TGAU ym Mlwyddyn 10, gan eich galluogi I astudio pynciau galwedigaethol yn gysylltiedig i waith megis Cyfrifon, Gofal

Plant, Lletygarwch, Cerbyd Modur a Chwaraeon.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd 16, gallwch benderfynu cael swydd, ymrestru ar Brentisiaeth, astudio cwrs galwedigaethol arall neu Lefelau A ac yna datblygu i gwrs gradd. Nid yw astudio cwrs galwedigaethol yn lle TGAU pan fyddwch chi’n 14 yn golygu cyfyngu ar eich opsiynau yn 16!

Bydd y cyrsiau galwedigaethol Blwyddyn 10 yn cael eu rhedeg yn un o’n pum Campws Coleg yn Llandrilloyn-Rhos, Y Rhyl, Abergele, Dinbych a Llanrwst neu yn eich ysgol.

Os oes gennych chi ddiddordeb astudio yn y Coleg, gallwch gael mwy o wybodaeth gan eich athro dosbarth, hyfforddwr dysgu neu Gynghorydd Gyrfaoedd.