Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Sut i Ymgeisio ar Gwrs

Os hoffech chi gael help a chyngor i wneud eich penderfyniad, neu os hoffech chi siarad a rhywun am arian i fyfyrwyr, ffoniwch y Ganolfan Gyngor ac Arweiniad yn y Coleg o'ch dewis neu galwch heibio yn ystod oriau gwaith.

Os oes gennych chi unrhyw broblem neu gwestiwn tra’n cwblhau unrhyw ffurflen cysylltwch â Chanolfan Cyngor ac Arweiniad ar 01492 542 338/9.

Sut i Ymgeisio ar Cwrs Addysg 14-19 a Dychwelyd i Ddysgu?

Os ydych chi'n gwybod pa gwrs llawn amser rydych chi eisiau ymgeisio amdano, llenwch y ffurflen gais isod a'i ddychwelyd i Goleg o'ch dewis. Mae copïau caled o’r ffurflen gais hefyd ar gael dros y ffon neu o gampws o’ch dewis.

Peidiwch a'i gadael hi'n rhy hir cyn ymgeisio - mae cyrsiau yn y Coleg yn llenwi'n gyflym. Mae yna lawer o gystadleuaeth i ddod i'r Coleg hefyd, felly gweithiwch yn galed i ennill y canlyniadau gorau y gallwch chi.

Ymgeisio am gwrs lefel Prifysgol llawn amser

Er mwyn ymgeisio am gwrs llawn amser lefel prifysgol (Gradd Anrhydedd, Gradd Sylfaenol, neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch) byddwch angen ymgeisio drwy system ar-lein Gwasanaeth Mynediadau Prifysgolion a Cholegau (UCAS) - 'Apply'. Gellir dod o hyd i hwn yn www.ucas.ac.uk. Côd y Sefydliad y Coleg yw L53.

I gael cymorth ychwanegol, e-bostiwch degrees@llandrillo.ac.uk.

Ymgeisio am gwrs lefel Prifysgol rhan-amser

Os ydych chi'n ymgeisio am gwrs lefel Prifysgol rhan-amser yna ymgeisiwch yn uniongyrchol i'r Coleg drwy yrru ffurflen gais wedi ei chwblhau i Ganolfan Cyngor ac Arweiniad ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos. Mae copïau caled o’r ffurflen gais hefyd ar gael dros y ffon neu o gampws o’ch dewis.

Ymgeisio am gwrs Addysg Oedolion a Chymunedol (Rhan-amser)

Edrychwch am y seren yn y golofn cyfweliad ar dudalen i rhestri cwrs yn y Prosbectws Rhan-amser i weld os ydych chi angen cyfweliad. Ar gyfer cyrsiau sydd ddim yn gofyn am gyfweliad, cwblhewch y ffurflen ymrestru yng nghefn y prosbectws neu lawrlwythwch un isod.

Os ydy'r cwrs y mae gennych diddordeb ynddo yn gofyn am gyfweliad, peidiwch a phoeni! Ar gyfer llawer o'r cyrsiau, fe fydd y cyfweliad yn anffurfiol iawn, yn aml y golygu dim mwy na sgwrs ffôn gyflym iawn.

Pwrpas y cyfweliad yma yw i drefnu gofynion cyn mynediad ar gyfer y cyrsiau a'ch darparu gyda manylion pellach. I drefnu cyfweliad, cysylltwch â'r coleg dros y ffôn neu mewn person rhwng 9yb a 4:30yp. Dywedwch wrth staff y dderbynfa eich bod yn ffonio i drefnu cyfweliad cwrs rhan-amser fel y gallant sicrhau eich bod yn cael eich trosglwyddo i'r adran berthnasol.

Unwaith y byddwch wedi cael eich cyfweliad, byddwch angen llenwi a dychwelyd y ffurflen ymrestru i gampws priodol y coleg. Gallwch lawrlwytho ffurflen isod, neu ddod o hyd i un yng nghefn y Prosbectws Rhan-amser.

Ymgeisio am gwrs Dysgu yn y Gweithle

Ffoniwch 01492 542 338/9 a gofynnwch am gael siarad â chynghorydd am gynlluniau hyfforddi yn y gwaith. Yna cewch eich cysylltu â rhywun fydd yn gallu dweud mwy wrthych a'ch helpu i gychwyn y broses.

Ffi adnodd

Codir tâl ar bob myfyriwr llawn amser pan fyddant yn cofrestru ar gwrs. Y gost i fyfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch fydd £15 am y flwyddyn gyfan.

Bydd y taliad o £15 yn golygu y cewch gyfrif e-bost personol, mynediad i'r Rhyngrwyd, adnoddau cwricwlaidd a mynediad i'r llyfrgell, yn ogystal â Cherdyn Adnabod y Coleg a chewch argraffu eich gwaith am ddim yn y dosbarth neu yn y Gweithdy TG (hyd at uchafswm ariannol o £15). Disgwylir i chi dalu eich Ffi Adnodd pan fyddwch chi'n cofrestru yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Coleg.