Mae Coleg Llandrillo Cymru’n goleg addysg bellach mawr (y mwyaf ond un yng Nghymru) ac mae’n gwasanaethu Canol a Gorllewin Gogledd Cymru. Ffurfiwyd y Coleg presennol yn sgil uniad llwyddiannus rhwng Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Meirion-Dwyfor yn 2010.
Mae’r Coleg yn gwasanaethu tiriogaeth tri Awdurdod Lleol – Conwy, Dinbych a Gwynedd (De). Er mwyn adeiladu ar yr egwyddor sylfaenol o sicrhau mynediad rhwydd i addysg, sefydlodd y Coleg rwydwaith o safleoedd ar hyd a lled yr ardal y mae’n ei gwasanaethu:
Mae ganddo hefyd amryw o ganolfannau dysgu llai.
Cliciwch ar y linciau isod i wybod sut mae cyrraedd ein prif gampysau a chanolfannau. I wybod y ffordd i’n canolfannau dysgu llai, ffoniwch 01492 546 666 neu e-bostiwch ni, os gwelwch yn dda.