Ceir yma amrediad eang o gyrsiau, o lefel ragarweiniol i lefel prifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau llawn amser i bobl ifanc ac i fyfyrwyr hyn, cyrsiau rhan-amser i'r unigolion hynny sydd eisiau gwella eu cyfleoedd gwaith neu sy'n astudio er mwynhad, a chyfleoedd hyfforddi yn seiliedig ar waith ar y Campws ac yn y gweithle.
Mae'r dewisiadau galwedigaethol yn cynnwys cyrsiau Celf a Dylunio, Peirianneg Cerbydau, Busnes, Gweinyddiaeth Busnes, Gofal Plant, Cyfrifiaduro, Adeiladwaith, Trin Gwallt, Iechyd a Gofal, Gwasanaethau Ewinedd, Gwasanaethau Cyhoeddus, Adwerthu, Chwaraeon, a Theithio a Thwristiaeth. Hefyd mae cyrsiau Dychwelyd i Ddysgu, Adeiladu Sgiliau, Sgiliau Byw'n Annibynnol, a Mynediad I Addysg Bellach ar gael.
Mae adeilad newydd Chweched y Rhyl, a agorwyd ym mis Medi 2010, yn darparu canolfan Chweched Dosbarth bwrpasol i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau Lefel A a Galwedigaethol, gyda dewis o dros 50 pwnc Lefel AS ac A a phynciau galwedigaethol.
Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys llefydd addysgu a dysgu eang, labordai gyda'r holl gyfleusterau, ystafell gyffredin a llefydd I astudio mewn tawelwch. Mae'r cyfleusterau TG diweddaraf, llyfrgell gyrfaoedd, adnoddau Addysg Uwch a chaffis ar gael.
Browsers
Mae siop gyfleus y Coleg yn gwerthu amrywiaeth o eitemau defnyddiol, yn cynnwys offer swyddfa, fferins, diod, dillad gwaith, esgidiau, deunyddiau celf a chardiau, am brisiau rhesymol.
Salonau Trin Gwallt ac Ewinedd
Cynigir amrediad eang o wasanaethau a chynnyrch trin gwallt yn y salonau am brisiau rhesymol. Myfyrwyr y Coleg yw staff y salonau.
Gweithdy TG
Darperir cyfleuster 'galw heibio' hyblyg i’r holl fyfyrwyr. Mae desg gymorth TG, CD-ROM, Rhyngrwyd, sganiwr, Cyhoeddi Bwrdd Gwaith, fideo-gipio a chyfleusterau argraffu lliw ar gael.
Amser Tymor
Dydd Llun 9yb – 5yh
Dydd Mawrth i ddydd Iau 9yb -7yh
Dydd Gwener 9yb - 4.30yh
Amser Gwyliau
Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb – 12yp a 1yp – 4yp
Cymorth Dysgu
Mae staff cymorth dysgu ar gael os ydych angen cymorth ychwanegol gydag unrhyw agwedd ar eich gwaith Coleg.
Llyfrgell a’r Ganolfan Ddysgu
Mae yma lyfrau, cylchgronau, newyddiaduron, DVDs a fideos, ac adnoddau electronig i gefnogi’ch astudiaethau. Mae staff yn y Ganolfan sy’n arbenigo mewn cynorthwyo gyda sgiliau astudio, sylfaenol ac allweddol.
Amser Tymor
Dydd Llun 9yb – 5yh
Dydd Mawrth i ddydd Iau 9yb – 7yh
Dydd Gwener 9yb - 4.30yp
Amser Gwyliau
Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb – 12yp a 1yp – 4yp
Llefydd i Fwyta
Mae dau gaffi ger y brif fynedfa’n gweini lluniaeth i fyfyrwyr trwy gydol y dydd. Ceir Caffi Java i lawr y grisiau, ble ceir bar coffi a nifer o ddewisiadau, fel paninis. Mae Caffeteria Windows i fyny grisiau’n cynnig amrywiaeth o fwydydd poeth, brechdanau a saladau.
Caffi Windows
Dydd Llun 8.30yb - 4.30yp
Dydd Mawrth i ddydd Iau 8.30yb – 6yh
Dydd Gwener 8.30yb – 3yp
Caffi Java
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb – 4yp
Siop Sgiliau Adwerthu
Mae Siop Sgiliau Adwerthu yr Academi Sgiliau Cenedlaethol yn ganolfan hyfforddi ar gyfer cyflogwyr, gweithwyr a dysgwyr ym maes adwerthu. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys dosbarthiadau meistr gan Mary Portas (Queen of Shops) sy’n uchel ei pharch yn y maes hwn.