Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Llandrillo Cymru, Llandrillo-yn-Rhos

Yn Llandrillo-yn-Rhos y mae campws mwyaf y Coleg. Ceir yno amrediad eang o gyrsiau o lefel mynediad i ôl-raddedig, yn cynnwys cyrsiau llawn amser a rhan-amser, cyrsiau yn ystod y dydd a chyda’r nos, cyrsiau academaidd, galwedigaethol, hyfforddi seiliedig ar waith, cyrsiau ailhyfforddi, cyrsiau gradd a chyrsiau pwrpasol.

Mae Campws Llandrillo-yn-Rhos wedi ei uwchraddio’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella’r cyfleusterau addysgu a dysgu, y cyfleusterau cymorth dysgu eang, a’r mannau chwaraeon a chymdeithasol i fyfyrwyr.

Facilities

Canolfan Forwrol ac Amgylchedd Adeiledig (MBEC)

Yng nghanolfan yr MBEC, a gafodd ei hagor ym mis Medi 2009, ceir y cyfleusterau diweddaraf i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Adeiladwaith, Technoleg Forwrol ac Egni Adnewyddol a Chynaliadwyedd. Mae adeilad yr MBEC yn gartref i Ganolfan Egni Adnewyddol a Chynaliadwy Cymru (RESCW). Mae’n darparu cyfleusterau arddangos, ymweliadau a seminarau addysgol yn ogystal â chyrsiau hyfforddi a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gymunedau, busnesau, ysgolion ac unigolion lleol.

Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cafodd yr adeilad ei agor ym mis Medi 2010 ac mae’r Sefydliad yn ategu’r cyfleusterau Iechyd a Gofal sy’n bodoli eisoes, ac yn darparu lleoliad dysgu pwrpasol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn y sector Iechyd a Gofal. Mae’n cynnwys ward gydag 8 gwely, ystafelloedd hyfforddi cwnselwyr, y cyfleusterau TG diweddaraf a theatr ddarlithio fechan.

Y Lolfa

Agorwyd y cyfleuster newydd ym mis Medi 2010 ac mae’n fan ychwanegol i fyfyrwyr astudio, ymlacio neu siarad gyda thiwtoriaid neu gyd-fyfyrwyr. Mae yna fan astudio tawel hefyd, gydag offer wifi, lle i ymlacio a chaffi.

Cyfleusterau Chwaraeon

Yn Hydref 2010, agorwyd cae pêl-droed 3G maint-llawn newydd, yn ogystal â lle arbennig i hyfforddi ar gyfer rygbi, gan ddarparu gwell cyfleusterau ar gyfer y Coleg a’r gymuned.

Cyngor ac Arweiniad

Mae’r tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i fyfyrwyr ar amrediad o bynciau yn cynnwys cyrsiau, cyllid, hyfforddiant, iechyd a lles, gofal plant a chludiant.

Salonau Trin Gwallt a Harddwch

Mae amrediad eang o wasanaethau a chynnyrch trin gwallt, ewinedd a harddwch ar gael am brisiau rhesymol. Y myfyrwyr Gwallt a Harddwch yw’r staff.

Gweithdy TG

Mae’r gweithdy TG yn darparu cyfleuster ‘galw heibio’ hyblyg, ynghyd â desg gymorth TG, CD-ROM, Rhyngrwyd, sganiwr, Cyhoeddi Bwrdd Gwaith, fideo-gipio a chyfleusterau argraffu lliw.

Canolfan Ddysgu

Cefnogaeth un-i-un mewn Mathemateg, Saesneg, Sgiliau Hanfodol, sgiliau astudio neu sgiliau cyflwyno.

Cymorth Dysgu

Os oes gennych anawsterau dysgu ac/neu anableddau, cysylltwch â’r tîm Cymorth Dysgu ar 01492 546 666 est. 599 neu e-bostiwch learningsupport@llandrillo.ac.uk.

Canolfan Adnoddau’r Llyfrgell

Mae llyfrau, cylchgronau, newyddiaduron, DVD a fideos ac adnoddau electronig ar gael i ategu’ch astudiaethau.

Llefydd i Fwyta ac Ymlacio

Mae pum cyfleuster bwyta ar y Campws, sy’n cynnig popeth o ddewisiadau iachus, dewis o goffi gwahanol a ffreutur traddodiadol yn Horizons, i fwyty gyda bwyd chwaethus. Myfyrwyr Lletygarwch yw staff bwytai Destinations ac Orme View. Mae Lolfa’r Myfyrwyr yn y Ganolfan Chwaraeon, a’r Lolfa newydd ger blaen y Campws, yn darparu llefydd i ymlacio ac i sgwrsio.

Destinations (Bloc Colwyn)

Dydd Llun – Gwener 9.30yb – 10.45yb,
12yp – 1.15yp

Deli a Ffreutur Hunanwasanaeth Horizons (Bloc Colwyn)
Dydd Llun 8.30yb – 5yh
Dydd Mawrth i ddydd Iau 8.30yb – 8yh
Dydd Gwener 8.30yb – 4yp

Lolfa’r Myfyrwyr (Bloc Penrhyn)
Dydd Llun i ddydd Iau 9yb – 5yh
Dydd Gwener 9yb – 4yp

Y Lolfa (Bloc Colwyn)
Dydd Llun i ddydd Gwener 10yb – 4yp

Chwaraeon

Mae’r Ganolfan Chwaraeon a’r Swît Ffitrwydd yn agored i’r holl fyfyrwyr, gyda gweithgareddau wedi eu trefnu, swît ffitrwydd a chyfleoedd i chwarae mewn timau ar bob lefel, mewn amryw o chwaraeon.

Siop y Myfyrwyr

Mae Siop y Myfyrwyr yn gwerthu amrediad o offer swyddfa, beiros, deunyddiau celf a chardiau am brisiau cystadleuol.

Swyddfa Deithio

Mae’r holl wasanaethau y byddech chi’n eu derbyn gan drefnwr teithiau ar y stryd fawr i’w cael yn Swyddfa Deithio’r Coleg. Mae’r myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth yn helpu’r staff sy’n gweithio yma.