Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli

Sefydlwyd Campws Pwllheli ar gyfer ardal Llyn ac Eifionydd yng Ngwynedd ac mae amrediad eang o gyrsiau Lefel AS ac A ar gael i fyfyrwyr wedi iddynt gwblhau eu TGAU yn yr ysgol.

Mae'r cyrsiau galwedigaethol yn cynnwys Gweinyddiaeth Busnes, Gofal Plant, Iechyd a Gofal, Chwaraeon, a Theithio a Thwristiaeth. Cynigir amrediad o gyrsiau sy'n berthnasol i Adeiladu Cychod, Peirianneg Forwrol a Gwasanaethau Cefnogol ar gyfer y diwydiant morwrol, yng Nghanolfan Hafan y Coleg yn y Marina. Ceir rhaglenni hyfforddi, fel Prentisiaethau, ar sawl lefel ac o ganlyniad, mae posib ennill cyflog wrth astudio. Cynigir cymwysterau Hyfforddiant Athrawon ynghyd â rhaglen gynyddol o gyrsiau rhan-amser.

Facilities

Cyngor Gyrfaol

Bydd Cynghorwyr Gyrfaoedd a staff o Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar ba gwrs i'w ddewis, beth mae cwrs yn ei olygu a beth i'w wneud os ydych yn ystyried newid eich cwrs. Gallant eich helpu hefyd i ymarfer sgiliau cyfweliad, i gynllunio dilyniant i Addysg Uwch (yn cynnwys UCAS) neu i chwilio am waith.

Siop y Coleg

Mae siop y Coleg yn gwerthu deunyddiau swyddfa, a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich cwrs am brisiau rhesymol.

Iechyd a Lles

Mae cynghorwyr Iechyd a staff Cwnsela ar gael i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i fyfyrwyr.

Cynyrchiadau Cerddorol

Mae'r Coleg yn llwyfannu sioe gerdd yn flynyddol, a gall myfyrwyr gymryd rhan un ai fel aelod o'r cast neu drwy helpu tu ôl i'r llwyfan.

Llefydd i Fwyta

Mae yna ffreutur ar y Campws sy'n gweini cinio a byrbrydau. Cewch y cyfle i gael gêm o pwl yno hefyd.

Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb – 1.45yp

Chwaraeon a Hamdden

Gallwch ymuno ag un o dimau chwaraeon y Coleg neu'r Academi Rygbi, defnyddio'r Ganolfan Hamdden yn y dref am ddim ar brynhawniau Mercher, neu gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored, fel hwylio a dringo.

Cymorth Dysgu

Mae amrediad eang o gyfleusterau, yn cynnwys Llyfrgell, Uned Astudio a staff Cymorth Dysgu ar y Campws i'ch cefnogi gyda phob agwedd ar eich astudiaethau.

Dydd Llun 9yb – 5yh
Dydd Mawrth 9yb – 5yh
Dydd Mercher 9yb – 7yh
Dydd Iau 9yb – 5yh
Dydd Gwener 9yb – 4.30yh

Gweithgareddau'r Urdd

Cynhelir Aelwyd yr Urdd ar y campws ac mae myfyrwyr yn cystadlu'n rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ddod yn fuddugol mewn cystadlaethau côr, celf ac ysgrifennu unigol.