Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon

Campws diwydiannau’r tir gyda chyfleusterau preswyl yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon ac mae’n arbenigo mewn Amaethyddiaeth, Peirianneg Diwydiannau’r Tir, Coedwigaeth, Rheoli Cefn Gwlad, Gofal am Anifeiliaid, Astudiaethau Ceffylau, Garddwriaeth a darpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Wedi i’r Coleg dderbyn grant o dros £10 miliwn i’w wario ar Ystâd Glynllifon, aed ati i uwchraddio ac ehangu’r Campws. Gwariwyd £2.3 miliwn ar adnewyddu hostel a ffreutur y myfyrwyr.

Fis Medi 2011, agorwyd bloc addysgu newydd, gwerth £7.4 miliwn, lle y ceir ystafelloedd dysgu cyfoes ac ystafelloedd TG, yn ogystal â llyfrgell a chanolfan adnoddau newydd, darlithfa fawr a chyfleusterau i ofalu am anifeiliaid bach. Mae’r ddarpariaeth newydd i fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn cynnwys cegin bwrpasol ac adnoddau helaeth i goginio a bwyta. Mae yna hefyd lolfa fodern, newydd i’r myfyrwyr.

Mae gan y Campws lu o gyfleusterau pwrpasol i gyd-fynd â’r cyrsiau a ddarperir ym maes diwydiannau’r tir, gan gynnwys parc anifeiliaid awyr agored, uned anifeiliaid dan do, arenas marchogaeth ceffylau dan do ac yn yr awyr agored, coedwig, gweithdy peirianneg a fferm weithredol gyda pharlwr godro modern.

Facilities

Cynghorwyr Gyrfaol

Bydd Rheolwr y Gwasanaethau i Fyfyrwyr wrth law yn ystod yr wythnos i gynnig cyngor a chefnogaeth i chi, a bydd cynghorwyr Gyrfa Cymru’n ymweld yn gyson â’r Campws.

Ystafelloedd Cyffredin

Mae yna ystafelloedd cyffredin i fyfyrwyr ymlacio pan na fyddant yn cael gwersi.

Hostel

Os hoffech astudio yma ond yn methu teithio’n ôl a blaen bob dydd, gallwch aros yn yr hostel yn ystod yr wythnos. Mae lle i 70 o fyfyrwyr yno. Mae cyfleusterau en-suite ym mhob ystafell, darperir brecwast a swper i chi a bydd y wardeiniaid yn goruchwylio ac yn darparu cymorth.

Gweithgareddau Eraill

Gallwch drefnu ar y Campws i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel saethu colomennod clai a marchogaeth ceffylau - cyfle gwych i gymdeithasu â myfyrwyr eraill. Gallwch hefyd ymuno â’r Ffermwyr Ifanc (neu barhau’n aelod) a chymryd rhan yng ngweithgareddau’r mudiad tra byddwch yn dilyn eich astudiaethau.

Llefydd i Fwyta

Mae’r ffreutur a gafodd ei adnewyddu’n ddiweddar yn darparu cinio a byrbrydau i staff a myfyrwyr.

Cymorth Dysgu

Mae’r Tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol mewn llawer o feysydd, gan gynnwys cyrsiau, cyfleoedd gwaith, arian, hyfforddiant, iechyd a lles, gofal plant a chludiant.