Mae Glasdir yn ganolfan ddatblygu wledig ar gyfer cymuned Llanrwst a'r ardaloedd cyfagos. Mae dysgwyr Coleg Llandrillo Cymru yn elwa ar y cyfleusterau gwych
sy'n cynnwys ystafelloedd hyfforddi pwrpasol, switiau TG a chyfleusterau cynadledda.
Mae'r cyrsiau dwyieithog llawn amser yn cynnwys Mynediad i Addysg Uwch, Gweinyddiaeth Busnes, Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cyrsiau rhan-amser yn cynnwys Busnes, Cyfrifiaduro a Chyfrifeg, Hanes Teulu, TGAU a rhaglenni Dychwelyd i Ddysgu.
Gweithdy TG a'r Llyfrgell
Mae gan y Coleg amserlen o sesiynau TG 'galw heibio' fel bod modd i chi ddefnyddio mewnrwyd y Coleg a chwblhau gwaith sydd angen ei wneud ar y cyfrifiadur. Cynigir cyrsiau ar-lein hefyd. Yn Llyfrgell Llanrwst, mae llyfrau ac adnoddau cyffredinol i gefnogi eich astudiaethau, yn ogystal â chyfrifiaduron y gellir eu harchebu am awr ar y tro.
Monday, Tuesday & Friday 10am – 5.30pm
Wednesday 10am - 7pm
Saturday 10am – 1pm
Llefydd i Fwyta/Lluniaeth
Gellir prynu te a choffi yn ffreutur y Ganolfan yn ystod amser egwyl. Mae yna hefyd beiriannau sy'n gwerthu byrbrydau a diod, ond bydd angen i chi wneud trefniadau eich hun ar gyfer cinio. Mae nifer o gaffis a llefydd prydau parod yn Llanrwst ond gallwch hefyd ddod â bwyd eich hun.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Mae staff arbenigol ar gael i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i fyfyrwyr o ran hyfforddiant, cyrsiau a chyfleoedd datblygu, gyrfaoedd, cyllid, iechyd a lles.