Sefydlwyd Campws Dolgellau ar gyfer ardal Meirionnydd yng Ngwynedd ac mae'r Coleg yn cynnig amrediad llawn o Lefelau AS ac A a Chyrsiau Galwedigaethol i fyfyrwyr wedi iddynt gwblhau eu TGAU yn yr ysgol.
Yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, teimlwn ei bod yn hynod o bwysig cefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod gyda ni. Gwnawn bopeth i sicrhau y bydd eich profiad yn y Coleg yn un llwyddiannus, drwy i chi weithio'n galed i gyrraedd eich potensial llawn, ac ar yr un pryd fwynhau'r profiad a chael hwyl.
Drwy gydol eich cwrs, gallwch gael cyngor, arweiniad a chefnogaeth personol gan staff profiadol.
Ceir cyrsiau galwedigaethol, yn cynnwys Celf a Dylunio, Busnes, Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lletygarwch a chyrsiau Addysg Awyr Agored, yn ogystal â chyrsiau Adeiladwaith sy'n cael eu cynnal ar Gampws y Marian yng nghanol y dref. Cynigir rhaglenni hyfforddi, fel Prentisiaethau, ar nifer o lefelau fel bod modd i chi ennill cyflog wrth astudio. Cynigir cymwysterau Hyfforddiant Athrawon hefyd.
Mae Canolfan Pwynt Busnes yn awr yn weithredol, ffoniwch 0845 4 50 59 60.
Mae Pwynt Busnes yn darparu hyfforddiant a chymorth hyblyg drwy gydol y flwyddyn i ddiwallu anghenion penodol ym myd busnes ac mewn diwydiant. Mae Cynghorydd Busnes ac arbenigwr TG ar gael i ymweld â'ch cwmni'n rhad ac am ddim i drafod eich anghenion penodol.
Bethan Ruth Roberts, Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2010-11
"Mae'r Coleg wedi 'mharatoi i at fywyd prifysgol, ac wedi 'nysgu sut i weithio'n annibynnol. Dowch i Goleg Meirion-Dwyfor! Mae'n brofiad gwych ac yn sylfaen ardderchog ar gyfer gweddill eich bywyd."
Aled Davies
"Mae'r cyfleusterau'n rhagorol ac yn ei gwneud hi'n rhwydd astudio. Mae'r awyrgylch yn gyfeillgar iawn, ac mae'r Coleg yn gwneud i chi feddwl yn annibynnol. Mi faswn i'n annog fy ffrindiau i ddod yma am bod y cyfleusterau'n gwella drwy'r adeg. Mae'r Coleg wedi fy rhoi i ar ben y ffordd o ran mynd i brifysgol."
Salonau Harddwch
Mae'r salonau Harddwch yn cynnig amrediad o driniaethau a chynnyrch, a rheini am brisiau rhesymol. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad rhowch ganiad i 01341 424 922.
Cyngor Gyrfaol
Bydd cynghorwyr gyrfaol a staff o Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar ba gwrs i'w ddewis, beth mae'r cwrs yn ei olygu, os hoffech chi newid eich cwrs a beth i'w wneud. Gallant eich helpu hefyd i ymarfer sgiliau cyfweliad, i gynllunio dilyniant i Addysg Uwch (yn cynnwys UCAS) neu i chwilio am waith.
Siop y Coleg
Mae siop y Coleg yn gwerthu deunyddiau swyddfa, a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich cwrs, am brisiau rhesymol.
Salonau Trin Gwallt
Cynigir amrediad eang o driniaethau a chynnyrch trin gwallt am brisiau rhesymol. Cysylltwch â 01341 424 922 am ragor o wybodaeth neu ar gyfer trefnu apwyntiad.
Iechyd a Lles
Mae Cynghorwyr Iechyd a staff Cwnsela ar gael i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i'r myfyfwyr.
Llefydd i Fwyta
Mae gan y Campws ffreutur sy'n gweini prydau a byrbrydau trwy gydol y dydd. Mae Bwyty'r Gader yn darparu cyfleusterau hyfforddi i fyfyrwyr Lletygarwch sy'n paratoi ciniawau chwaethus gyda'r dydd a'r nos ar gyfer achlysuron arbennig.
Chwaraeon a Hamdden
Gallwch ymuno ag un o dimau chwaraeon y Coleg neu'r Academi Rygbi, defnyddio'r Ganolfan Hamdden yn y dref am ddim ar brynhawniau Mercher, neu gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored.
Dydd Llun i ddydd Gwener 8.55yb - 3.30yp
Cymorth Dysgu
Mae amrediad eang o gyfleusterau, yn cynnwys Llyfrgell, Uned Astudio a staff Cymorth Dysgu, ar gael ar y Campws i'ch cefnogi gyda phob agwedd ar eich astudiaethau.
Dydd Llun 9yb – 5yh
Dydd Mawrth 9yb – 7yh
Dydd Mercher 9yb- 5yh
Dydd Iau 9yb – 7yh
Dydd Gwener 9yb – 4.30yp
Cynyrchiadau Cerddorol
Mae'r Coleg yn llwyfannu sioe gerdd yn flynyddol a gall myfyrwyr gymryd rhan un ai fel aelod o'r cast neu drwy helpu tu ôl i'r llwyfan.