Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Llandrillo Cymru, Dinbych

Agorwyd Campws Dinbych ar Lôn y Goron yn 2001. Ceir yno gyfleusterau dysgu dwyieithog i gymuned Dinbych a'r ardaloedd cyfagos.

Mae'r cyrsiau llawn amser a gynigir yn cynnwys Mynediad i Addysg Uwch, Gweinyddiaeth, Busnes ac Adwerthu, Gofal Plant, Celfyddydau Creadigol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Thechnoleg Cerddoriaeth. Mae'r Coleg yn cynnig amrediad eang o gyrsiau rhan-amser yn ystod y dydd a chyda'r nos, yn cynnwys Cyfrifeg, Celf a Thecstilau, Lefel AS ac A, Uwch Gyfrannol, Cyfrifiaduro, Hanes Teulu, TGAU ac Ieithoedd.

Facilities

Caffi'r Coleg

Mae Caffi'r Coleg, lle mae modd ymlacio a chymryd egwyl, yn cynnig dewis gwych o luniaeth. Neu mae croeso i chi ddod â bwyd a diod eich hun gyda chi, wrth gwrs. Mae'r Caffi yn cynnwys ardal seiber lle ceir cyfrifiaduron sydd ar y rhwydwaith a lle i eistedd o flaen teledu sgrin plasma lydan. Caiff gwaith celf, yn cynnwys peintiadau ac unrhyw weithiau eraill gan fyfyrwyr eu harddangos yn y man arddangos arbennig.

Dydd Llun 9yb - 3.30yp
Dydd Mawrth i ddydd Gwener 9yb – 3yp

Canolfan Wybodaeth a Dysgu

Mae'r Ganolfan Wybodaeth a Dysgu fodern yn agored yn hwyr, ddwy noson yr wythnos ac yn darparu popeth y byddech yn ei ddisgwyl, yn cynnwys cyfrifiaduron rhwydwaith, adnoddau ar-lein fel y rhyngrwyd a chyfnodolion ar-lein, argraffydd lliw, sganwyr, llungopïwr, camerâu digidol, llyfrau, newyddiaduron a chylchgronau. Hefyd gellir prynu eitemau o Siop Undeb y Myfyrwyr yn y Ganolfan Ddysgu.

Amser Tymor
Dydd Llun 8.30yb - 8.30yh
Dydd Mawrth 8.30yb - 6.30yh
Dydd Mercher 8.30yb - 8.30yh
Dydd Iau 8.30yb - 6.30yh
Dydd Gwener 8.30yb - 4.30yh

I wybod beth yw'r amseroedd agor yn ystod y gwyliau rhowch ganiad i Ian Flanagan ar 01745 812 812 est. 654.

Canolfan Technoleg Cerddoriaeth

Mae Canolfan Technoleg Cerddoriaeth Ddwyieithog Sir Ddinbych yn darparu cyfleusterau blaengar ar gyfer amrediad o gyrsiau llawn a rhan-amser. Mae gan y Ganolfan ystafell perfformio'n fyw, stiwdio recordio, Swît Mac, lolfa i'r myfyrwyr ac ystafell ymarfer gyda dewis eang o offerynnau cerdd.

Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Mae dau Hwylusydd Sgiliau Astudio arbenigol ar Gampws Dinbych sy'n cefnogi myfyrwyr o ran llythrennedd, rhifedd, sgiliau astudio, ac anawsterau dysgu (fel dyslecsia), ysgrifennu traethodau, adolygu, paratoi at arholiadau, symudedd a phroblemau eraill.

Mae Cynghorydd Myfyrwyr ymroddedig yn darparu gwybodaeth ddiduedd ynglyn â chyrsiau a dewisiadau dilynol, yn ogystal â chefnogaeth a gwybodaeth ar ofal plant, cefnogaeth ariannol, ceisiadau grant, cyngor gyrfaol a cheisiadau i brifysgol/astudiaethau pellach. Mae cyngor gyrfaol penodol ar gael trwy staff Gyrfa Cymru sy'n ymweld â'r Coleg yn rheolaidd. Cynghorydd y Myfyrwyr yw'r

Cyswllt hefyd ar gyfer gwasanaeth cwnsela cyfrinachol y Coleg.