Cafodd Canolfan Ddysgu'r Bae ym Mae Colwyn ei hagor yn Ebrill 2010. Datblygwyd y fenter gan Goleg Llandrillo Cymru mewn partneriaeth â Chymunedau'n Gyntaf a'r Gwasanaeth Ieuenctid, gyda chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Menter Bywyd y Bae.
Mae'r Ganolfan yn cynnig amrediad o gyrsiau, yn cynnwys learndirect, cyrsiau Cynorthwywyr Dosbarth, Astudiaethau Byddardod a chyrsiau TG, yn ogystal â chyrsiau i helpu pobl ddychwelyd i addysg.
Swît Astudiaethau Byddardod
Swît Astudiaethau Byddardod bwrpasol gyda chyfleusterau arbenigol ar gyfer dysgu Arwyddiaith a chyrsiau perthnasol.
Ystafelloedd TG
Yn yr ystafelloedd TG newydd, ceir y cyfleusterau TG diweddaraf.