Mae Campws Abergele yn darparu cyfleusterau dysgu cymunedol i bobl Abergele a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r Coleg wedi ennill ei blwyf o ran darparu addysg o safon i oedolion, gyda llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i astudio cyrsiau gradd yng Ngholeg Llandrillo Cymru neu brifysgolion lleol.
Mae'r cwricwlwm llawn amser yn cynnwys cyrsiau fel Mynediad i Addysg Uwch, Lefelau AS ac A, Harddwch, Diplomâu ar gyfer Derbynwyr ac Ysgrifenyddion Meddygol a TGAU.
Mae'r Coleg hefyd yn cynnig amrediad eang o gyrsiau dydd a nos rhan-amser yn cynnwys Cyfrifeg, Lefelau A ac AS, Harddwch, Cyfrifiaduro, Hanes Teulu, TGAU, Iechyd a Gofal, Ieithoedd a Derbynwyr ac Ysgrifenyddion Meddygol.
Stiwdios Harddwch
Ceir triniaethau ewinedd a harddwch yn y Salon Harddwch am brisiau hynod o resymol.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad ffoniwch 01745 828 100.
Canolfan Hanes Teulu
Mae'r Ganolfan Hanes Teulu, sy'n datblygu enw da am ragoriaeth yn rhyngwladol, yn galluogi myfyrwyr i olrhain hanes a bywydau eu cyndadau.
Llyfrgell, TG a Chymorth Dysgu
Mae Canolfan Adnoddau'r Llyfrgell a'r gweithdy TG ar agor yn ddyddiol, yn cynnwys rhai nosweithiau, gydag amrediad eang o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae staff Cymorth Dysgu ar gael os ydych angen cymorth ychwanegol gydag unrhyw agwedd ar eich gwaith Coleg.
Dydd Llun i ddydd Iau 9yb – 9yh
Dydd Gwener 9yb - 4.30yh
Llefydd i Fwyta
Gall myfyrwyr a staff ymlacio rhwng gwersi yn y Caffi Awyr Las.
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30yb – 5yh
Dydd Gwener 8.30yb – 4yh