Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo Cymru

Huw Evans OBE Prifathro, Coleg Llandrillo Cymru

Mae Huw Evans yn Brifathro ar Goleg Llandrillo ers 1989. Ers y cyfnod hwnnw mae’r coleg wedi datblygu i fod yn un o’r mwyaf yng Nghymru, gan ddenu bron i 24,000 o fyfyrwyr i’w safleoedd amrywiol, gyda throsiant o £46miliwn.

Mae'r coleg yn cynnig darpariaeth helaeth o gyrsiau llawn a rhan-amser, gan gynnwys portffolio addysg uwch helaeth wedi ei ddylunio i ddarparu anghenion galwedigaethol addysg uwch yr ardal. Mae’r coleg yn weithgar iawn yr agenda 14-19 ac yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Addysg Lleol Conwy, Gwynedd a Sir Ddinbych.

Yn 2005 cyflawnodd y coleg yr acolâd o fod y coleg cyntaf yng Nghymru i gyflawni graddau 1 am bob agwedd yn fframwaith ansawdd Estyn, gyda dros 70% o'i rhaglenni gweithredol yn cyflawni cydnabyddiaeth gradd 1.

Dros y blynyddoedd mae'r Prifathro wedi gweithio'n ddiwyd ar ddatblygu mentrau addysgol ar draws Cymru a'r DU, a bu’n Gadeirydd 'fforwm' – nawr yn adnabyddus fel Colegau Cymru, bu’n aelod o Fwrdd UFI ac yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Bellach(C). Ar hyn o bryd mae’n aelod o Grÿp Cynghori'r Gweinidog (GCG) a than yn ddiweddar ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gweithredol 14-19 Estynedig. Mae'n parhau i ymwneud â sawl grÿp strategol ac yn fwy diweddar bu'n aelod o Grÿp Cyfeirio â chyfrifoldeb am Adolygu Addysg Uwchradd yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n aelod o'r CBI ac yn aelod o Gyngor Cymru.

Ar Ebrill 1af 2010, fe unodd y coleg gyda Choleg Meirion Dwyfor sydd â safleoedd yn Nolgellau, Pwllheli a Glynllifon. O ganlyniad, mae mwy na 1400 o staff ar draws y tair sir y mae'r coleg yn ei wasanaethu yng Ngwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

Yn 2002, derbyniodd OBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am "Wasanaethau i Addysg Bellach".