Datganiad Cenhadaeth a Gwerthoedd y Coleg
Cenhadaeth
- Darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf er mwyn gwella sylfaen sgiliau cyflogwyr, unigolion a chymunedau, a hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd.
Gwerthoedd
Gwerth 1 – Ymddygiad ac Ethos
Bydd Coleg Llandrillo Cymru’n:
- Hybu cyfle cyfartal yn ymarferol, gan gefnogi a gwerthfawrogi pob unigolyn yn y sefydliad
- Cynorthwyo pawb i roi o’u gorau ac i barchu ei gilydd
- Rhoi sylw llawn i gynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn
- Gweithredu’n gyfrifol mewn perthynas â dinasyddiaeth fyd-eang.
Gwerth 2 – Pwy Ydym Yn Ei Wasanaethu
Bydd Coleg Llandrillo Cymru’n:
- Ymateb i anghenion ein rhanddeiliaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth i wella ein gwasanaethau
- Gosod ein myfyrwyr yn y canol, o ran popeth a wnawn
- Cynorthwyo’r unigolyn i gyflawni ei botensial llawn
- Gweithio mewn partneriaeth i greu rhwydwaith dysgu effeithiol yng nghanol Gogledd Cymru.
Gwerth 3 – Ansawdd
Bydd Coleg Llandrillo Cymru’n:
- Parhau i ddarparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf, mewn amgylchedd dwyieithog
- Darparu gwasanaeth ardderchog sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian
- Ymrwymo i ragoriaeth ym mhopeth a wnawn.
Gwerth 4 – Meithrin Sgiliau
Bydd Coleg Llandrillo Cymru’n:
- Cefnogi adfywiad economaidd
- Ymroi i fod yn brif hybwr sgiliau’r economi leol
- Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth er mwyn gwella sylfaen sgiliau cyflogwyr, unigolion a chymdeithas.