Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Coleg Llandrillo - Equality And Diveristy

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb yn Coleg Llandrillo

Mae'r Coleg yn cydnabod gwerth pob aelod o'i gymuned, y cyfraniad a wneir gan fyfyrwyr, staff, cleientiaid a llywodraethwyr i gyfoethogi'r bywyd Coleg a chydraddoldeb cyfraniad o'r fath.

Mae Coleg Llandrillo'n ymroddedig i gynnig gwasanaeth addysg sy'n darparu cydraddoldeb o gyfle i bawb a rhyddid rhag anffafriaeth ar sail rhyw, iaith, hil, cenedligrwydd, oed, anabledd, dosbarth cymdeithasol neu gyfeiriad rhywiol.

Cyfrifoldebau dros faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • Gerry Jenson - Dirprwy Brifathrawes
    Cyfrifoldeb yr Uwch Dîm y Cadeirydd Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Lisa Johnson - Cyd-drefnydd Gwasanaethau Cwsmer
    Materion myfyrwyr
  • Karen Nelson - Rheolwraig Personél
    Materion Staff

Strwythurau

Mae gan y Coleg Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (is-bwyllgor o'r Bwrdd Academaidd) gyda chynrychiolaeth o bob maes a safle o'r Coleg. Caiff grwpiau tasg a gorffen penodol eu sefydlu i gael eu barn ar faterion/polisïau penodol. Caiff grwpiau ffocws eu cynnal yn rheolaidd gyda myfyrwyr a staff er mwyn cael eu barn er mwyn gwella ein gwasanaethau yn barhaol. Mae Bwrdd y Coleg yn derbyn diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu ac yn cymryd diddordeb penodol yn hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau'r Coleg i bawb.

Polisïau a Chynlluniau Gweithredu

Mae'n bolisïau a gweithredoedd perthynol ar y wefan. Os hoffech chi roi sylw ar rhain cysylltwch â j.smith@llandrillo.ac.uk os gwelwch yn dda.

Tudalennau Perthnasol