Nod y prosiect yw datblygu a darparu ystod o raglenni hyfforddiant achrededig Lefel 1-3 sy’n canolbwyntio ar anghenion cyflogwyr yr ardal. Mae cyllid wedi ei gymeradwyo gan gronfa Blaenoriaeth 3 Thema 1 y rhaglen Cydgyfeirio yng Nghymru – Gwella Sgiliau a Hyblygrwydd y Gweithlu.
O ran polisi Adnewyddu’r Economi LlCC a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010, bydd y prosiect yn targedu pedwar o’r pum sector a nodwyd – TGCh, Ynni a’r Amgylchedd, Diwydiannau Creadigol a gwasanaethau ariannol a Phroffesiynol. Bydd yn gwneud hyn drwy ddatblygu a chynnig CGC ymarferol sy’n seiliedig ar waith yn y sectorau pwysicaf i’r economi bresennol a dyfodol y rhanbarth, yn ogystal â chyrsiau byrrach wedi eu teilwra’n benodol i anghenion y sectorau. Y buddiolwyr yn bennaf fydd gweithwyr â sgiliau isel o fewn busnesau bach a chanolig.
Tîm o Ymgynghorwyr Datblygu Busnes(YDB) ac aseswyr peripatetig yn y gwaith fydd yn trosglwyddo’r prosiect. Yr YDB fydd yn cyflwyno cam cyntaf y prosiect a fydd yn cysylltu â busnesau unigol gydag ymweliad â safle’r cyflogwr. Ar y cam hwn, ymgymerir â’r Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi a ymweliad arall yn cael ei drefnu. Caiff yr hyfforddiant ei wneud naill ai ar safle’r coleg neu yn y gweithle. Yng ngham cyntaf y prosiect , bydd cyflogwyr yn gallu cymryd rhan mewn ystod o CGCau a chyrsiau byr, sydd wedi ei gymeradwyo gan y bartneriaeth ar y cyd gyda’r Cynghorau Sgiliau Sector a chyflogwyr lleol. Yn ystod oes y prosiect, bydd y cynnig yn newid, wrth ymateb i anghenion a chyfleoedd y farchnad lafur leol.
Sefydlwyd y prosiect er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddiant hygyrch i gyflogedigion o fusnesau yn y sector breifat a phobl hunan gyflogedig o fewn siroedd Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd sy’n rhan o ranbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Mae’r prosiect yn cynnwys partneriaeth o bedwar coleg Addysg Bellach o fewn ardal Cydgyfeirio Gogledd Orllewin Cymru:- Coleg Llandrillo(Arweinydd), Coleg Menai, Coleg Glannau Dyfrdwy a CAG (G) Coleg Harlech.
Coleg Llandrillo Cymru yw’r partner sy’n arwain ac yr Uned Ariannu Allanol a leolir ar safle Llandrillo yn Rhos sy’n gyfrifol am y rhaglen ar ran y bartneriaeth. Bydd yr adran yn rheoli’r holl hawliau ariannol ac yn monitro’r cyfranogwyr gyda phartneriaid a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol;
Mae prosiect Y Dyfodol yn gynllun wedi’i hysbysu o dan Reoliad Eithriadol Bloc Cyffredinol (REBC) Y Gymuned Ewropeaidd, rhif cyfeirnod cymorth gwladwriaethol: SA.32676 (x/2011)
Nod y cynllun yw galluogi’r partneriaid i ddarparu hyfforddiant cefnogol i fentrau yng Nghymru ar ffurf NVQ a chyrsiau byr.
Gellir cal manylion pellach am y cyllun drwy’r linc yma