Coleg Llandrillo Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Llandrillo Cymru
Principal Huw Evans, OBE

Croeso i Goleg Llandrillo Cymru

Oddi wrth Bennaeth Gweithredol y Coleg, Dr Ian Rees

Mae Coleg Llandrillo Cymru wedi magu enw da’n genedlaethol am ragoriaeth ac mae ganddo rai o’r adnoddau addysgol gorau yng Nghymru. Enillodd y Coleg, ei staff a’i fyfyrwyr lu o wobrau yn 2010/11 ac roedd ein canlyniadau yn yr arholiadau’n eithriadol o dda. Mewn llawer o’r pynciau, llwyddodd pawb i basio.

Yn dilyn yr uniad rhwng Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Meirion-Dwyfor yn Ebrill 2010, gall myfyrwyr astudio ar gampysau yn siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd. Ble bynnag y byddwch yn dewis astudio, byddwch yn gallu defnyddio ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau cefnogi ardderchog. Bydd y rhain yn eich helpu i ddatblygu’ch potensial i’r eithaf yn y cwrs a ddewiswyd gennych.

Yn yr amgylchiadau economaidd presennol, gall fod yn anodd dod o hyd i swydd. Bydd gwella’ch sgiliau a’ch cymwysterau’n gwella’ch siawns o gael gwaith.

Gall y Coleg gynnig cyrsiau i chi o 14 oed ymlaen a’ch galluogi i gyfannu’ch astudiaethau ysgol, ennill cymwysterau galwedigaethol ac academaidd, cael hyfforddiant tra byddwch yn gweithio neu ailhyfforddi at yrfa newydd.

Mae’r Coleg yn darparu rhychwant eang o raddau ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Cymru Casnewydd ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC). Mae’r cymwysterau hyn yn uniongyrchol berthnasol i fyd gwaith a chawsant eu datblygu drwy ymgynghori â chyflogwyr lleol a rhanbarthol.

Beth bynnag yw’ch cynlluniau at y dyfodol, bydd y Tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr yn ein Canolfannau Cyngor ac Arweiniad yn falch o’ch helpu.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma.

Dr Ian Rees
Pennaeth Gweithredol