Yn dilyn uno Coleg Llandrillo Cymru a Choleg Meirion-Dwyfor yn 2010, crëwyd y Coleg mwyaf yng ngogledd Cymru, gyda dros 23,000 o fyfyrwyr yn astudio ar ddeg prif gampws a sawl canolfan ddysgu yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Yn Llandrillo-yn-Rhos mae prif gampws Coleg Llandrillo Cymru, gyda safle mawr yn y Rhyl gan gynnwys Chweched y Rhyl, ac mae ganddo safleoedd eraill yn Abergele, Bae Colwyn, Dinbych, Dolgellau, Glynllifon, Llanrwst a Phwllheli. Mae gan y Coleg ganolfan hyfforddiant busnes arbenigol yn Llanelwy hefyd.
Mae gan Goleg Meirion-Dwyfor dri champws yn Nolgellau, Glynllifon a Phwllheli.
Mae’r Coleg yn cyflogi tua 1,400 o staff ac yn cynnig dros 3,000 o gyrsiau rhan-amser. Mae cyrsiau yn amrywio o Lefelau A, BTEC, Prentisiaethau ac NVQ i gymwysterau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen, Graddau Anrhydedd ac Astudiaethau Ôl-radd a gynigir ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Glyndŵr a Metropolitan Caerdydd a Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Yn dilyn, cyfres lwyddiannus iawn o arolygon Llywodraeth, caiff ei gydnabod fel un o’r goreuon yn y DU.
Mae’r Coleg hefyd wedi ffurfio ymgyrch ryngwladol helaeth ac mae’n denu mwy a mwy o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn.
Mewn cyfarfodydd ym mis Rhagfyr 2011, cytunodd Bwrdd Coleg Llandrillo Cymru a Bwrdd Coleg Menai i uniad ffurfiol rhwng y ddau Goleg i ffurfio Grŵp Llandrillo-Menai.
Bydd y sefydliad unedig newydd yn un o’r mwyaf yn y DU, gyda throsiant o dros £70 miliwn, yn cyflogi dros 2,000 o staff, gan ddenu 34,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Bydd y Grŵp yn gweithredu ar 14 safle yn rhychwantu siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn . Bydd Grŵp Llandrillo-Menai yn gweithredu mewn gwahanol leoliadau dan enwau Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, gan gynnal yr enw da a’r cysylltiadau rhagorol a adeiladwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Daw’r penderfyniad diweddar yn sgil penodi Mr Glyn Jones OBE yn ddarpar Brif Weithredwr y Grŵp. Bydd Mr Jones, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Coleg Sir Benfro, yn ymgymryd â’r swydd yn Chwefror 2012.
Bydd y ddau goleg yn cyflwyno’r achos i Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o uno’n ffurfiol ar 1 Ebrill 2012.
Bob haf, mae ein myfyrwyr yn dathlu ar ôl cyflawni rhai o’r canlyniadau gorau yn y wlad. Er enghraifft, yn 2011, cyflawnodd ein myfyrwyr Lefel A ac AS gyfraddau llwyddo 100% mewn 36 pwnc, ac yn flynyddol, caiff ein myfyrwyr eu derbyn i rai o’r prifysgolion mwyaf mawreddog.
Derbyniodd y Coleg y graddau uchaf ym mhob arolwg diweddar – Addysg Bellach, Addysg Uwch a Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae’r canlyniadau hyn yn gosod Coleg Llandrillo Cymru fel un o’r colegau gorau yn y DU.